Menter Patagonia
Mae cynllun Menter Patagonia yn chwilio am weithwyr maes newydd.
Prif amcanion y cynllun fydd creu,
Cyfleoedd i gymdeithasu trwy’r Gymraeg
Cyfleoedd i unigolion o’r Wladfa astudio a gweithio yng Nghymru
Cyfleoedd i unigolion o Gymru (Ieuenctid gan amlaf )
i wneud gwaith Gwirfoddol yn y Wladfa
Cydweithio efo’r rhaglen dysgu Cymraeg
Mae’r cynllun am gyflogi berson i weithio yn Y Wladfa am gyfnod i drafod. Hoffwn clywed gennych os ydach yn meddwl eich bod yn ddigon deinamig ac yn meddu ar y rhinweddau i sicrhau parhad i lwyddiant y cynllun. Am swydd ddisgrifiad ewch i; www.menterpatagonia.com
Dyddiad Cau Medi 10fed – Cais Drwy Lythyr a CV i
Meirion@menteriaithconwy.cymru247.net
YN EISIAU!!SIARADWYR CYMRAEG
YN EISIAU!!
SIARADWYR CYMRAEG
i ddysgu Cymraeg i Oedolion.
Rhoddir hyfforddiant llawn
ac fe’ch telir am eich gwaith.
Brwdfrydedd sy bwysicaf!
Cysylltwch am ffurflen gais:
Steffan Webb
Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent
Coleg Gwent, Yr Hill, Pen-y-pound,
Y Fenni, Sir Fynwy, NP7 7RP.
Neu ffoniwch : 01495 333735
steffan.webb@coleggwent.ac.uk