Mentrau Iaith Cymru

 

yn hyrwyddo'r Gymraeg yn y gymuned
promoting the Welsh language in the community

English

Gwybodaeth


Prosiectau


Cysylltiadau

Cefnogwch

Newyddion 1

Cyfarfod Cyffredinol

Mmentrau Iaith Cymru
Cyfarfod Cyffredinol
Canolfan Merched y Wawr, Aberystwyth
11.00yb, 29ain Ionawr 2010
Agenda
1. Croeso Cadeirydd
2. Ymddiheuriadau
3. Cofnodion Cyfarfod Blynyddol 2008
4. Adroddiad Blynyddol 2008-09
5. Adroddiad Ariannol 2008-09
6. Ethol bwrdd cyfarwyddwyr
7. Ethol Swyddogion
- Cadeirydd
- Is-Gadeirydd
- Ysgrifennydd
- Trysorydd
8. Statws Elusennol y Cwmni
9. Dyddiad y cyfarfod nesaf
Yn
27/01/2010

Brwydr y Bandiau 2010

Brwydr y Bandiau 2010
Mae Brwydr y Bandiau yn ôl, ac yn fwy nac erioed! Mae Mentrau Iaith Cymru ac C2 yn chwilio am dalent newydd Cymru!

Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal ar y cyd rhwng Mentrau Iaith Cymru ac C2 Radio Cymru, ac yn un o'r cystadleuaethau pwysicaf yn y sîn gerddoriaeth yng Nghymru i ddarganfod talent y dyfodol. Caiff bandiau neu artistiaid o unrhyw arddull gystadlu, cyn belled a'u bod yn gymwys i wneud hynny yn unol a'r rheolau.

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal ddechrau 2010, ac os ydych chi am gystadlu bydd angen i chi ddatgan eich diddordeb cyn hynny. Mae rheolau cystadleuaeth 2010 yn y broses o gael eu cadarnhau ar hyn o bryd, felly dewch yn ol yn fuan am y rheolau llawn.

Os ydych yn awyddus i gystadlu, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch gyda’ch Menter Iaith lleol.

Gwybodaeth gan C2: http://www.bbc.co.uk/radiocymru/c2/safle/ brwydrybandiau/2010.shtml

18/11/2009

Swyddog maes i Batagonia

Swyddog maes i Batagonia
Mae Menter Patagonia am gyflogi person i weithio yn y Wladfa.

Swydd ddisgrifiad a gwybodaeth yma >> Disgrifiad
21/11/2009

Hwyl yn y Sioeau

Hwyl yn y Sioeau
Roedd Mentrau Iaith Cymru wedi cynnal stondinau yn y Sioe Amaethyddol yn Llanelwedd ac yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala. Trefnwyd nifer o ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos i dynnu sylw at weithgarwch y mentrau iaith
12/08/2009

Mentrau Iaith Cymru| Cysylltwch |
MENTRAU IAITH CYMRU CYF. Y SGWAR. LLANRWST. CONWY. LL26 0LG Cwmni Cofrestredig Rhif:. 04134269