Mentrau Iaith Cymru

 

yn hyrwyddo'r Gymraeg yn y gymuned
promoting the Welsh language in the community

English

Gwybodaeth


Prosiectau


Cysylltiadau

MENTRAU IAITH CYMRU
Y SGWAR. LLANRWST.
CONWY. LL26 0LG


Cefnogwch

Hwyl Gwyliau

Beth yw Menter Iaith?

Mudiadau lleol yw Mentrau Iaith, sy’n rhoi cymorth i gymunedau i gynyddu ac ehangu’r defnydd o’r iaith Gymraeg.  Mae Menter Iaith yn gweithio ar draws un sir fel arfer, ac yn adlewyrchu awydd pobl leol i wneud mwy o ddefnydd o’r iaith.  Bydd y Mentrau yn rhoi cymorth a chyngor i unigolion, mudiadau a busnesau, ac yn cynnal gweithgareddau er mwyn codi proffil yr iaith. 

Cewch wybodaeth am ba ddarpariaeth Gymraeg a dwyieithog sydd ar gael yn eich ardal chi, a sut i gael hyd iddo.  Dyma’r ffenest siop leol yn eich ardal ar gyfer yr iaith Gymraeg!

Bellach mae yna rwydwaith o Fentrau Iaith ar draws Cymru, ac mae’n debygol iawn fod Menter yn eich ardal chi.  Edrychwch ar y map i ddarganfod eich Menter leol. 

 

 

Ar AgorBeth mae’r Mentrau Iaith yn ei wneud?

Bydd eich Menter yn rhoi cyngor neu help ymarferol i chi, a hynny’n aml yn rhad ac am ddim.  Mae pob Menter yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau gan ddibynnu ar yr anghenion lleol, megis -

Cyngor

  • I rieni newydd ynglŷn â magu eu plant yn ddwyieithog
  • I gyrff cyhoeddus a gwirfoddol ar gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg
  • I fusnesau sydd am ddechrau cynnig gwasanaeth dwyieithog i’w cwsmeriaid
  • Ar Addysg Gymraeg i blant

Gweithgareddau

  • Cyfleoedd cymdeithasol i blant a phobl ifanc i ddefnyddio’u Cymraeg
  • Cyfleoedd i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg y tu allan i’r dosbarth
  • Gwneud gwaith cyfieithu byr neu eich rhoi mewn cysylltiad â chyfieithwyr
  • Gweithio mewn partneriaeth gyda mudiadau lleol er mwyn cynnig gweithgareddau cymunedol


Mentrau Iaith Cymru| Cysylltwch |
MENTRAU IAITH CYMRU CYF. Y SGWAR. LLANRWST. CONWY. LL26 0LG Cwmni Cofrestredig Rhif:.