MENTRAU IAITH CYMRU
Y SGWAR. LLANRWST.
CONWY. LL26 0LG
Amcan cynllun Iaith Gwaith yw annog busnesau, sefydliadau a’r cyhoedd i ddefnyddio gwasanaethau Cymraeg a dwyieithog. Mae hefyd yn gyfle i bobl ddangos eu bod yn hapus i siarad Cymraeg neu’n dysgu’r iaith.
Bathodynnau
Prif gyfrwng y cynllun yw bathodyn. Mae dau fath o fathodyn – un i siaradwyr Cymraeg ac un i ddysgwyr.
Gwefan -
A hyn oll yn rhad ac am ddim. Gwefan >
Prosiectau arbrofol yw'r cynlluniau gweithredu iaith i hyrwyddo'r Gymraeg mewn ardaloedd lle mae angen hwb arni. Nod y cynlluniau yw cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg fel iaith gymunedol a chymdeithasol drwy weithio gyda phobl leol a sefydliadau. Mae swyddogion y Bwrdd yn hwyluso'r gwaith drwy ddod â phawb at ei gilydd – yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol – sydd â diddordeb mewn datblygu'r iaith yn y gymuned. Mae cynlluniau wedi'u sefydlu yn Abergwaun, Aberteifi, Rhydaman, Corwen, Casnewydd, Machynlleth, Rhuthun, Pwllheli a Phen Llŷn a Llanrwst. Os am ragor o fanylion am gynlluniau gweithredu iaith, cysylltwch â Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar 8000.
Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn dosrannu dros £4m i gyrff cyhoeddus a gwirfoddol.
Cynllun ariannir gan Croeso Cymru yw Naws am Le ac mae’n cyfrannu tuag at gostau arwyddion dwyieithog newydd (mewnol ac allanol), gan fusnesau bach a chanolig. Cynigir grantiau hyd at 50% am brosiectau cymwys dros £100 hyd at uchafswm o £1,000 i un busnes. Gweinyddir y grant gan CYMAD. Mae gweinyddiaeth y cynllun wedi symud i swyddfa CYMAD yn Dinas Mawddwy. Am ffurflenni cais/rhagor o daflenni neu wybodaeth bellach cysylltwch â;
Gwawr Davalan, Swyddfa Menter, Dinas Mawddwy. Machynlleth. Powys. SY20 9JA
e-bost:
Gwasanaethau Cymraeg
Mae sefydliadau ar draws Cymru yn cynnig gwasanaethau Cymraeg. Yn eu plith mae gwasanaethau sydd ar gael dros y ffôn, ar-lein, ar bapur a wyneb yn wyneb. Mae ymgyrch ‘mae gen ti ddewis…’ yn hyrwyddo dewis iaith pan fydd ar gael. Dros y misoedd nesaf bydd yr ymgyrch yn gweithio gyda sefydliadau partner i hyrwyddo’u gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae gen ti ddewis Wrth ffonio, ysgrifennu at sefydliad neu’n ymweld â sefydliad, edrycha am y dewis iaith a dewisa’r Gymraeg pan fydd ar gael.
Rho wybod i dy deulu a’th ffrindiau fod ganddyn nhw ddewis hefyd. Ymuna â’r drafodaeth a rho wahoddiad i’th ffrindiau i ymuno â’n grŵp ar Facebook.
Rho wybod i’r darparwyr beth yw dy farn am ansawdd gwasanaethau Cymraeg a pha mor hawdd neu anodd yw cael gafael ynddynt a rho wybod i ni – gwael neu dda.
Mae llawer o gwmniau preifat yn ogystal â phob corff cyhoeddus wedi mabwysiadu Cynllun Iaith ac mae hawl gennych i dderbyn gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Os nad ydych yn fodlon â’r gwasanaeth Cymraeg y cawsoch chi, neu os na wnaeth corff gadw at ei gynllun iaith Gymraeg, gallwch holi Bwrdd yr Iaith Gymraeg am gyngor ynghylch eich hawl i gwyno.
Dweud eich dweud > Llyfryn
Yng Nghymru mae nifer fawr iawn o fusnesau eisoes yn defnyddio’r Gymraeg. Mae ymchwil yn dangos bod y rhan fwyaf o gwsmeriaid yn gwerthfawrogi hynny, ac yn meddwl bod defnyddio’r Gymraeg gan fusnesau yn bwysig. Mae Marc Cefnogi’r Gymraeg yn ffordd hawdd i fusnesau dynnu sylw at eu cefnogaeth i’r Gymraeg, ac i ddangos eu bod nhw’n parchu disgwyliadau cwsmeriaid Cymru.
Pam cymryd rhan yng nghynllun Cefnogi’r Gymraeg?
Os yw eich busnes eisoes yn defnyddio’r Gymraeg, bydd cynllun Cefnogi’r Gymraeg yn eich helpu chi i hyrwyddo hynny. Os nad yw eich busnes yn defnyddio’r Gymraeg ar hyn o bryd, bydd cynllun Cefnogi’r Gymraeg yn ei roi ar ben y ffordd. Nid yw’n golygu gwneud popeth yn ddwyieithog, ac nid yw’n mynnu bod gennych staff sy’n medru siarad Cymraeg. Gall eich busnes ddefnyddio’r cynllun fel cam cyntaf, ac adeiladu ar hynny dros amser. Mae busnesau adnabyddus ac uchel eu parch eisoes yn rhan o’r cynllun, felly bydd eich busnes mewn cwmni da. Bydd eich staff a’ch cwsmeriaid yn falch bod eich busnes yn cefnogi iaith a diwylliant gwerthfawr Cymru.
Cliciwch yma i fynd i wefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg >>
Mae’r cyngor hwn yn cyflwyno safbwynt
Bwrdd yr Iaith Gymraeg
ar ddefnyddio’r Gymraeg mewn
gweithleoedd, ac yn cynnig arweiniad
ynglŷn â’r prif ddulliau o gyflawni hynny.
Mae nifer o sefydliadau yng Nghymru
eisoes yn defnyddio’r Gymraeg er mwyn
gweinyddu’n fewnol, boed hynny’n gyfan
gwbl neu’n rhannol. Gwneud hynny o
ddewis a wnânt, nid yn sgil gofynion
deddfwriaethol. Cliciwch ar y llun o'r ddogfen.
Llinell Gwaith CartrefMae gwasanaeth y Llinell Cefnogi Gwaith Cartref ar gael i ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd ac ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Pwrpas y llinell yw cynnig cyngor ar sut i helpu gyda gwaith cartref i rieni di Gymraeg a rhoi cymorth gyda geirfa neu dermau Cymraeg i rieni sydd yn medru'r Gymraeg. Gellir cysylltu drwy ffonio 0871 neu drwy anfon e-bost at neu . Mae'r llinell ar agor o 9.30am i 8.00pm o Ddydd Llun i Ddydd Gwener ac o 2.00pm tan 8.00pm ar y Sul. Cost galwadau yw pris galwad lleol, er bydd costau o ffonau symudol yn amrywio. A does dim angen gofyn am ganiatâd rhiant cyn ffonio!! Gwefan > Rhai o bartneriaid Bwrdd yr Iaith GymraegYr Urdd - Mudiad Ysgolion Meithrin - - Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru |