Mentrau Iaith Cymru

 

yn hyrwyddo'r Gymraeg yn y gymuned
promoting the Welsh language in the community

English

Gwybodaeth


Prosiectau


Cysylltiadau

MENTRAU IAITH CYMRU
Y SGWAR. LLANRWST.
CONWY. LL26 0LG


Cefnogwch

MIC a C2

Brwydr y Bandiau

Rheolau 2008 > Rheolau

Brwydr y Bandiau 1

Dewis Rhagor

Rowndiau Cyn-derfynol Brwydr y Bandiau

Rowndiau Cyn-derfynol Brwydr y Bandiau
Mae Mentrau Iaith cymru a C2 Radio Cymru yn trefnu Brwydr y Bandiau

Y Rownd Gyn-Derfynol
Beirniaid: Bethan Elfyn, Rhodri Llwyd Morgan, Hefin Jones

Nos Fawrth, Mawrth 24ain
Llongyfarchiadau i Smashing Diamonds am gyrraedd y rownd derfynol!

- Smashing Diamonds
- Plant Bach Annifyr
- Steffan Huw
- Y Cnobau

Nos Fercher, Mawrth 25ain
Llongyfarchiadau i Nevarro am gyrraedd y rownd derfynol!

- Nevarro
- Yr Angen
- Corn Bîff
- Osian Hedd

Nos Iau, Mawrth 26ain
- Crwydro
- Bettis Muff
- Cymdeithas yr Hobos Unig
- Ji-Bincs

Rowndiau Cyn-derfynol Brwydr y Bandiau
27/03/2009

Enillwyr Brwydr y Bandiau 2008

Enillwyr Brwydr y Bandiau 2008
Llongyfarchiadau i'r Offbeats o Grymych ar ennill Brwydr y Bandiau Mentrau Iaith Cymru / C2 Radio Cymru 2008, gan guro Stone Free (o Aberystwyth) a Tempo (hefyd o Grymych) yn y rownd derfynol ar Orffennaf 2ail.

Mae'r wobr i'r band ifanc yn un sylweddol - byddant yn recordio Sesiwn i C2; yn cael ymddangos ar raglenni teledu Bandit ac Uned 5 ar S4C; perfformio yn Maes B, Eisteddfod Caerdydd 2008; chwarae mewn gigs Mentrau Iaith Cymru; yn ogystal a pherfformio ar Daith Bandit / C2 2008.
07/07/2008

Rownd Gyn-derfynol 2008

Rownd Gyn-Derfynol ByB
21 Mai 2008
Pwy? Pryd? Lle? Manylion y rownd nesaf i gyd!

Mae 'r rowndiau rhanbarthol drosodd.
Amser felly i edrych ymlaen tuag at rowndiau cyn derfynol Brwydr y Bandiau Mentrau Iaith Cymru a C2 Radio Cymru 2008.

Mi fydd y rowndiau yn digwydd dros 3 noson ar C2 sef Nos Fawrth, Mercher a Iau 3 - 5 Mehefin rhwng 8 a 10 o'r gloch ar raglen Magi Dodd.

Er mwyn penderfynu pa fandiau fydd yn cystadlu pa noson, mi wnaeth Dafydd o'r band Coda ddod i stiwdios moethus C2 at Magi i dynnu enwau'r bandiau o het.

A dyma'r canlyniad:
Nos Fawrth 3 Mehefin
Ocsimoronig
Heretica
Tempo
Nos Fercher 4 Mehefin
Liam Rickard
Caswallon ap Cranc
Stone Free
Nos Iau 5 Mehefin
T.S.S
Road Kill
Yr Offbeats
26/05/2008

Fideo o Rownd Rhanbarthol

Rownd Rhanbarthol



12 mun 9 eil - Meh 28, 2007

 Mae'r fideo yma'n cynnwys uchafbwyntiau o rownd rhanbarthol canolbarth Cymru cystadleuaeth Brwydr y Bandiau MIC/C2 a gynhaliwyd yng nghanolfan CARAD yn Rhaeadr ar 23 Mawrth 2007.

20/07/2007

Brwydr y Bandiau 2009

Mae C2 BBC Radio Cymru a Mentrau Iaith Cymru yn trefnu Brwydr y Bandiau 2009

Y Rowndiau Rhanbarthol

Rhanbarth y De-Orllewin
Nos Iau, Chwefror 12fed - Neuadd San Pedr, Caerfyrddin
Yn fuddugol: Ji-bincs, Nevaro, Smashings Diamonds


Rhanbarth y De-Ddwyrain
Nos Wener, Chwefror 20fed - Theatr Coleg Merthyr Tudfil
Yn fuddugol: Osian Hedd, Steffan Huw, Yr Angen


Rhanbarth y Gogledd
Nos Fawrth, Mawrth 10fed - Caban Cysgu, Gerlan, Bethesda
Yn fuddugol: Crwydro

Rhanbarth y Canolbarth
Nos Fercher, Mawrth 11eg - Tafarn y Cwps, Aberystwyth
Yn fuddugol: Cymdeithas yr Hobos Unig, Plant Bach Annifyr, Y Cnobau

12/03/2009

Brwydr y Bandiau 2008

Mae rownd derfynol ByB08 ar nos Fercher Gorffennaf 2il gyda bandiau Tempo, Stone Free ac Yr Offbeats. Cofiwch wrando ar C2 Radio Cymru.
24/06/2008

Byddwch yn Barod i Frwydro!

Byddwch yn Barod i Frwydro!
Pwy fydd y Radio Luxembourg, Frizbee, Euros Childs neu’r Genod Droog nesa’? Dyma beth mae Mentrau Iaith Cymru ac C2 BBC Radio Cymru am ei ddarganfod wrth iddyn nhw lansio cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2008, un o’r cystadlaethau mwyaf yng Nghymru i ddod o hyd i’r band mawr nesaf.

Bydd y band buddugol yn cael y cyfle i recordio sesiwn i raglen C2, i chwarae mewn gigs Mentrau Iaith Cymru, perfformio ym Maes B, Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008 ac ar daith C2 Bandit heb sôn am ymddangos ar raglen deledu Bandit ac Uned 5 ar S4C.

Mae croeso i fandiau ac artistiaid o unrhyw fath gystadlu - roc, hip-hop, jazz, blues, pop, gwerin neu ddawns. Does dim ots faint o aelodau sydd yn y band ac mae croeso i artistiaid unigol a deuawdau.

Rhaid i hanner aelodau’r band fod yn 21 mlwydd oed neu yn iau, bod y band neu artist heb ryddhau CD sydd ar werth mewn siopau (heblaw am ymddangos ar CD amlgyfrannog), a’u bod yn medru perfformio tair cân yn y Gymraeg. Mae mor syml â hynny!

I gael mwy o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y gystadleuaeth, cysylltwch â’ch Menter Iaith leol cyn gynted a phosib – mae manylion cyswllt ar wefan mentrau-iaith.com.
31/03/2008

Amheus yn ennill Brwydr y Bandiau

Amheus yn ennill Brwydr y Bandiau
Amheus - band o Lanymddyfri - enillodd gystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2 a Mentrau Iaith Cymru 2007. Roedd aelodau'r band, Aaron, Mared, Heledd, Owain a Gareth, yn canu'r gân, Mrs Puw.
Y wobr oedd sesiwn i raglen C2 ar Radio Cymru, chwarae yng ngigs Mentrau Iaith Cymru, ymddangos ar raglenni teledu Bandit ac Uned 5 ar S4C, perfformio yn Maes B, Eisteddfod Sir Fflint 2007, a pherfformio ar Daith C2 Bandit 2007.
Y chwech band yn y rownd derfynol oedd Cymro-C o Aberdâr; Meibion Ffred o Landysul; Stamina Straightjacket o Ystalyfera; Stone Free o Aberystwyth a'r Hybridz o Aberdaugleddau ac Amheus o Lanymddyfri, yr enillwyr.
20/04/2007

Rhagor o Newyddion

Mentrau Iaith Cymru| Cysylltwch |
MENTRAU IAITH CYMRU CYF. Y SGWAR. LLANRWST. CONWY. LL26 0LG Cwmni Cofrestredig Rhif:.