MENTRAU IAITH CYMRU
Y SGWAR. LLANRWST.
CONWY. LL26 0LG
Mae'r Mentrau Iaith yn unigryw i Gymru, yn gyrff lleol o wirfoddolwyr sy'n cydweithio gyda'u swyddogion cyflogedig i gynnal ystod eang ac amrywiol o weithgareddau er mwyn codi'r ymwybyddiaeth o'r iaith Gymraeg a chryfhau'r defnydd ohoni yn eu hardaloedd. Ceir 25 Menter ar hyn o bryd, yn gwasanaethu rhan helaeth o Gymru - twf sylweddol ers sefydlu'r fenter gyntaf yn 1991.
Mae Mentrau Iaith Cymru wedi ei sefydlu fel Cwmni gyda'r nod o gefnogi gwaith y Mentrau, a chyfrannu ar lefel genedlaethol i drafodaethau strategol. Mae Mentrau Iaith Cymru yn sefydliad gwirfoddol dielw, wedi ei sefydlu i gynorthwyo anghenion y Mentrau Iaith lleol i gyd ac felly yn ddibynnol ar eu cefnogaeth, er mwyn i ni lwyddo.
Mae Mentrau Iaith Cymru yn gweithredu ar lefel cenedlaethol a rhanbarthol.
Swyddfa Gofrestredig
Rhif Cofrestredig